Ar 12 Rhagfyr 2023, cytunodd y Pwyllgor Busnes, yn unol â Rheol Sefydlog 29.4(i), i wahodd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad i ystyried a chyflwyno adroddiad ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3) ar y Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol.
Yn unol â Rheol Sefydlog 29.4(ii), cytunodd y Pwyllgor Busnes y dylai’r pwyllgorau gyflwyno adroddiad i’r Senedd erbyn 2 Chwefror 2024.